Copyright 2024 Simon Armitage.

Taith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog 2022 – Polisi Preifatrwydd

Diogelu data – Gall unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod ei chyfrif fel data personol.  Mae’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 yn llywodraethu’r ffyrdd y gall unrhyw sefydliad brosesu eich data personol. Bwriedir y deddfau hyn i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel a’i ddefnyddio’n gyfrifol. Fe wnânt hyn drwy a) rhoi ichi hawliau penodol dros eich data, a b) dynodi cyfrifoldeb y defnyddiwr i barchu’r hawliau hyn a darparu gwybodaeth benodol ichi.

Pwy ydyn ni a beth a wnawn – Caiff Taith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog 2022 ei rhedeg gan Reolwr Prosiectau’r Bardd Llawryfog a chyfarwyddwr technegol y Daith ar ran bardd Llawryfog presennol y Deyrnas Unedig Simon Armitage. Mae’r Daith yn gyfres o ddarlleniadau barddoniaeth sy’n para wythnos a gynhelir rhwng Mawrth 24 ac Ebrill 1, 2022. Caiff y darlleniadau eu ffrydio’n fyw o’r tu mewn i ddetholiad o lyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cynulleidfaoedd (yn amodol ar reoliadau Covid ar y pryd). 

Pam ein bod yn cadw eich gwybodaeth ac ar gyfer beth y’i defnyddiwn – Rydym yn prosesu data yn unol â GDPR. Nid ydym yn rhannu nac yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd partïon, gan gynnwys y llyfrgelloedd sy’n rhan o’r Daith. Ni fyddwn ond yn cysylltu â chi os rhoesoch eich cyfeiriad e-bost a’ch cod post yn y Deyrnas Unedig (neu’ch gwlad) pan gofrestrwch o’ch gwirfodd ar-lein ar gyfer un o ddigwyddiadau Taith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog drwy Crowdcast. Rydyn ni’n dal y wybodaeth hon dim ond i alluogi, rheoli a gwerthuso profiad y gynulleidfa o’r digwyddiad.  Cyn y digwyddiad, mae hyn yn cynnwys cysylltu â chi drwy’r e-bost (yn unig) drwy Crowdcast i gadarnhau eich bod wedi archebu lle ar gyfer y digwyddiad ac yna i’ch atgoffa unwaith neu ddwy cyn iddo ddechrau. Ar ôl y digwyddiad, byddwn yn gwahodd adborth gan y gynulleidfa a gaiff ei gydgasglu gan ddefnyddio Cognito Forms.

Drwy archwilio’r ddadansoddeg a chasglu adborth i ddarparu crynodeb di-enw fe all y Daith a’r llyfrgelloedd croesawu wella digwyddiadau i’r dyfodol.  Bydd y Daith yn gallu adrodd wrth ei chyrff ariannu sy’n cynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr. Dim ond dadansoddiad o ddata eich post cod (a ddefnyddir yn ddi-enw) y byddwn yn ei rannu â’n llyfrgelloedd croesawu a’n cyrff ariannu. 

Mae dal eich gwybodaeth am y dibenion a ddisgrifir yn syrthio dan y cymal ‘buddiant busnes dilys’ yn GDPR. Nid ydym yn defnyddio’r data hwn at ein dibenion personol ein hunain nac er mwyn cysylltu â neb, heblaw ar eich cyfarwyddyd. Gweler hefyd Bolisi Preifatrwydd Crowdcast a Cognito Forms.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth – rydym yn defnyddio platfform ffrydio Crowdcast i bobl gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Delir eich gwybodaeth yn ddiogel ar Crowdcast drwy ddefnyddio cyfrinair.  Rydym yn cadw cyn lleied â phosibl o ddata personol a gallwn ddileu data personol neu ei wneud yn ddi-enw, lle bo’n briodol. Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon nac yn ei gwerthu. 

Pwy sy’n gallu ei gweld – Gall Rheolwr Prosiectau’r Bardd Llawryfog a chyfarwyddwr technegol y daith weld eich gwybodaeth, gan ddefnyddio cyfrinair, i sicrhau eich bod yn cael eich atgoffa am y digwyddiad yr ydych wedi cofrestru ar ei gyfer a chewch hefyd wahoddiad i rannu eich profiad o’r digwyddiad fel rhan o broses ehangach ar gyfer gwerthuso’r Daith.

Beth allwch chi wneud â’ch gwybodaeth – Gallwch ddad-danysgrifo unrhyw amser o Crowdcast: ewch i’r dudalen Event, clicio ar options (ar frig y dudalen ar y dde) a dad-gofrestru o’r digwyddiad.  Mae gennych hefyd hawl i weld y data personol a ddaliwn amdanoch chi ac i ofyn i unrhyw wallau yn y data gael eu cywiro. Gallwch dynnu eich cydsyniad inni brosesu eich data yn ôl, ac os gwnewch hynny caiff eich gwybodaeth ei dileu oddi ar ein cofnodion. Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth am sut rydym yn storio eich data drwy e-bostio: laureatelibrarytour@gmail.com

Am faint rydym yn cadw gwybodaeth – Mae’r ddeddf diogelu data yn mynnu nad ydym ond yn cadw data personol am gyn hired ag sydd angen i gyflawni’r dibenion y’u casglwyd ar eu cyfer yn wreiddiol neu nes bo rhywun yn tynnu ei gydsyniad yn ôl. Ar ôl cwblhau’r Daith a’r gwaith gwerthuso yn ystod 2022, caiff y data a gafwyd gan y gynulleidfa adeg cofrestru ei ddileu’n barhaol oddi ar ein cofnodion. Gallwch ofyn inni ddileu eich data oddi ar ein cofnodion unrhyw amser drwy e-bostio:   laureatelibrarytour@gmail.com

Cadw eich data’n ddiogel – Mae gennym reolaethau priodol ar waith yn y system i ddiogelu’r manylion cofrestru.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, e-bostiwch laureatelibrarytour@gmail.com 

Mae gennych hefyd hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). https://ico.org.uk/global/contact-us/
 
Mae ein Polisi Preifatrwydd yn ddyddiedig Ionawr 2022 ac fe all newid o bryd i’w gilydd.

Diolch ichi am eich diddordeb a’ch cefnogaeth.

***

 

Contact

Literary Agent
Kirsty McLachlan
kirsty@morgangreencreatives.com
Morgan Green Creatives Ltd


To Book a Poetry Reading
Caroline Hawkridge
hawkridgeagency@gmail.com
The Hawkridge Agency

USA
Anya Backlund
anya@blueflowerarts.com
Blue Flower Arts, LLC


To Book LYR
Alex Zinovieff
alex@alwaysmgmt.com

Other enquiries
poetlaureatecontact@gmail.com

simonarmitage_official