Taith y Bardd Llawryfog i Lyfrgelloedd – Defnyddio Crowdcast
Mae digwyddiadau Taith y Bardd Llawryfog i Lyfrgelloedd yn rhad am ddim, ond mae’n rhaid i chi gofrestru ar Crowdcast cyn y gallwch chi wylio. Sut i gofrestru / archebu digwyddiad- Dewch o hyd i’r digwyddiad yr ydych eisiau’i fynychu ar dudalen we’r Daith neu ar sianel Crowdcast y Daith.
- Agorwch dudalen archebu’r digwyddiad ar Crowdcast, yna cliciwch y botwm archebu gwyrdd.
- Cwblhewch y sgrin fer Rydych chi bron yno!
- Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch i gadarnhau. Edrychwch yn eich ffolder sothach os nad ydych chi yn ei dderbyn.
- Ar ôl cofrestru, gallwch chi ddychwelyd at dudalen we’r digwyddiad ar unrhyw adeg. Defnyddiwch y ddolen archebu ar dudalen we’r Daith neu dewch o hyd i’r digwyddiad ar sianel Crowdcast y Daith.
- Anfonir nodyn atgoffa atoch yn awtomatig cyn y digwyddiad.
- os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur pen desg, gliniadur neu lechen, ceisiwch gael mynediad i Crowdcast drwy eich porwr, yn hytrach na llawrlwytho’r ap.
- os ydych chi’n gwylio drwy’ch ffôn, defnyddiwch ap Crowdcast.
- gwiriwch fod y sain ar eich dyfais wedi’i droi i fyny ac nad yw’r sain yn ddistaw.
- caewch unrhyw borwr, tabiau neu gymwysiadau eraill a fyddai fel arall yn rhedeg yn ystod y digwyddiad ac ystyriwch ofyn i bobl eraill yn y tŷ beidio â defnyddio Wi-Fi yn ystod y digwyddiad.
- unwaith yr ydych chi wedi mewngofnodi i ddigwyddiad sydd ar fin mynd yn fyw, os nad yw eich digwyddiad yn dechrau chwarae ychydig ar ôl yr amser dechrau, gallwch chi bwyso ‘play’ ar waelod chwith y sgrin. Gall diweddaru y dudalen hefyd helpu. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at 40 eiliad neu fwy ambell waith i’r ffrwd fyw eich cyrraedd chi.
- A oes oedi, byffro, rhewi, neu sain yn diflannu wrth fynychu digwyddiad? Mae Crowdcast yn darparu cyngor pellach yma, gan gynnwys sut i fynd i’r Modd Cytunedd pe bai angen.
Eglura Crowdcast: “Pan maen nhw wedi cael eu galluogi, mae Capsiynau Byw yn ymddangos yn awtomatig mewn blwch symudol, bychan ar waelod eich porwr pan ydych chi’n gwylio neu’n gwrando ar ddarn o gynnwys lle mae pobl yn siarad.
Mae geiriau yn ymddangos ar ôl ychydig o oedi a bydd capsiynau hyd yn oed yn ymddangos gyda sain distaw neu’ch sain wedi’i droi i lawr. Gellir galluogi Capsiynau Byw yn fersiwn ddiweddaraf Chrome drwy fynd i Osodiadau, yna’r adran “Advanced”, ac yna “Accessibility”. (Os nad ydych chi’n gweld y nodwedd, ceisiwch ddiweddaru ac ailgychwyn eich porwr gyda’ch llaw.) Pan ydych chi’n toglo arnyn nhw, bydd Chrome yn llawrlwytho rhai ffeiliau adnabod lleferydd yn gyflym, ac yna dylai capsiynau ymddangos y tro nesaf y mae eich porwr yn chwarae sain lle mae pobl yn siarad.
Nodwch os gwelwch yn dda, mae’r gosodiadau hyn ar ochr y gwyliwr; nid yw’r capsiynau yn cael eu harddangos o fewn y ffrwd fideo yn uniongyrchol. Gallwch chi ddarllen mwy ynglŷn â hyn, gan gynnwys eglurwr fideo, yn uniongyrchol o Google.
Mae’r capsiynau ar gyfer y gwyliwr yn unig sy’n eu galluogi ac nid yw capsiynau yn cael eu dangos o fewn y ffrwd fideo yn uniongyrchol.”
- Sefydlu gwasanaeth trawsgrifio ymlaen llaw, fel Otter.aineu Web Captioner.
Mae Crowdcast yn cynghori: “Os ydych chi’n mynychu digwyddiad, ceisiwch sefydlu’r gwasanaethau hyn gyntaf. Byddwch chi angen rhannu eich sgrin rhwng ffenestr y digwyddiad a’r trawsgrifiad neu ddefnyddio dau fonitor. Mae Otter.ai yn rhad ac am ddim am hyd at 600 munud o drawsgrifiad, ac mae Web Captioner yn gyfan gwbl rad ac am ddim!”
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich digwyddiad ar Daith y Bardd Llawryfog i Lyfrgelloedd yn ystod 2022.